string(41) "/cym/funding/cronfa-uwchraddio-rownd-dau/" Skip to main content
int(1396)
Funding (cym)

Cyhoeddwyd ar 21.08.2024

Cronfa Uwchraddio – Rownd Dau

Hyd at £250,000 ar gyfer prosiectau o bwys ac uchelgeisiol sylweddol sydd â’r potensial i drawsnewid sector y cyfryngau a chael effaith ryngwladol.

Ceisiadau ar agor: Dydd Llun 7 Hydref 2024

Ceisiadau yn gau: Dydd Mercher 4 Rhagfyr 2024

Trosolwg

Bydd Rownd 2 y Gronfa Uwchraddio yn buddsoddi mewn cwmnïau sydd gystal â chystadleuwyr byd-eang o ran maint eu sgiliau a’u huchelgais i arloesi. Rydym yn chwilio am gynhyrchion, gwasanaethau a phrofiadau sydd wedi cael eu sbarduno gan arloesedd, gyda’r potensial ar gyfer twf yn sector y cyfryngau. 

Rhaid i’ch cynnig ddangos y potensial i gael effaith gadarnhaol ar economi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. 

Y Cwmpas

Nod y gystadleuaeth hon yw darparu cynhyrchion, gwasanaethau a phrofiadau arloesol i fynd i’r afael â heriau sydd i’w gweld yn niwydiant y cyfryngau yng Nghymru, a hynny drwy gyllid ymchwil a datblygu. 

Mae’n ofynnol bod eich prosiect: 

  • yn anelu at ddarparu atebion sydd â thystiolaeth o ddichonoldeb ac sy’n mynd i’r afael â heriau neu gyfleoedd a nodwyd 
  • yn dangos potensial realistig i sicrhau twf economaidd 
  • yn syniad sy’n barod i gael ei fasnacheiddio’n gyflym ar ôl i’r prosiect gael ei gwblhau 
  • yn rhannu gwybodaeth ac allbynnau gyda Media Cymru 
  • yn cyd-fynd ag o leiaf un o bileri strategol Media Cymru 

Gall eich prosiect ganolbwyntio ar un neu fwy o’r canlynol: 

  • fformatau cyfryngau newydd a datblygu cynnwys arloesol 
  • cynhyrchu cyfryngau datblygedig, gan gynnwys cydgyfeirio cynhyrchu rhithwir a chynhyrchu traddodiadol 
  • modelau busnes a phrosesau cynhyrchu cyfryngau newydd a chynhwysol 
  • sero net a datgarboneiddio’r sector sgrin (mae croeso arbennig i brosiectau sy’n ymateb i ganfyddiadau Cynllun Trawsnewid Screen New Deal ar gyfer Cymru) 
  • adrodd straeon drwy dechnolegau ymgolli Realiti Estynedig (XR), gan gynnwys Realiti Rhithwir (VR), Realiti Cynyddol (AR) a Realiti Cymysg (MR) 
  • creu cynnwys gemau fideo a’u cynhyrchu, gan gynnwys cydgyfeirio â chyfryngau eraill 
  • Deallusrwydd Artiffisial (AI) a thechnolegau eraill fel offer ar gyfer cynhyrchu’r cyfryngau 
  • creu lleoedd, gan gynnwys twristiaeth ddiwylliannol a’r cyfryngau 
  • cynhyrchu dwyieithog ac amlieithog 
  • newyddion a gwybodaeth gyhoeddus 
  • cynhyrchu cerddoriaeth, llais a sain, gan gynnwys perfformio a dosbarthu 

Nid yw’r rhestr hon yn hollgynhwysfawr. Os gallwch ddangos bod eich cynnig yn cyd-fynd â chwmpas y gystadleuaeth hon, gallwch ganolbwyntio ar themâu eraill. 

Dyddiadau Allweddol 

  • 7 Hydref 2024: Ceisiadau ar agor
  • 17 Hydref 2024: Digwyddiad briffio ar-lein: cofrestrwch i gymryd rhan. Bydd sleidiau briffio ar gael i’w lawrlwytho o wybodaeth ategol ar ôl y digwyddiad. 
  • 4 Rhagfyr 2024, 11am: Ceisiadau yn gau
  • 27 Ionawr 2025: Hysbysu ymgeiswyr 

Hygyrchedd 

Os oes gennych unrhyw ofynion penodol a fyddai’n gwneud y cais yn fwy hygyrch i chi (megis cyngor, cyfarwyddiadau neu gymorth darllen) neu os hoffech drafod y cais hwn mewn fformat arall (fformatau fideo neu sain, adroddiad sain, ffont mawr, testun plaen, neu iaith arall) anfonwch e-bost i media.cymru@caerdydd.ac.uk neu ffoniwch 02922 511 434. 

Cymhwysedd 

Mae’n rhaid i’ch prosiect:

  • bod yr arian grant y gofynnir amdano rhwng £100,000 a £250,000 
  • bod y prosiect yn para hyd at 12 mis 
  • bod y prosiect yn canolbwyntio’n bennaf ar sector y cyfryngau 
  • bod y prosiect yn dangos potensial sylweddol o fudd economaidd i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd 
  • bod y prosiect yn bwriadu manteisio ar y canlyniadau ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd 
  • nad yw’r prosiect yn dechrau cyn 1 Ebrill 2025 
  • bod y prosiect yn dod i ben erbyn 30 Ebrill 2026 

Pileri Media Cymru  

Rydyn ni’n awyddus i gefnogi prosiectau sy’n mynd i’r afael â rhai agweddau o’n pedwar piler strategol, neu bob un ohonynt:  

  • Gwyrdd – lleihau effaith amgylcheddol y sector 
  • Teg – creu sector teg, cyfartal ac amrywiol 
  • Byd-eang – cynyddu cydweithrediadau rhyngwladol   
  • Twf – sbarduno twf a chynhyrchiant drwy Ymchwil a Datblygu. 

Unrhyw gwestiynau?

Ymunwch â gweminar friffio Ymchwil ac Arloesi’r DU (UKRI) dros Zoom (Dydd Iau 17 Hydref, 11am) i gael gwybod rhagor am y Gronfa Uwchraddio a gofyn cwestiynau.