Cysylltwch â Ni
Media Cymru
Sbarc, Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ
Cyhoeddwyd ar 07.06.2023
Wales Interactive yn cynnal gweithdai adrodd straeon rhyngweithiol.
___________________________________________________________________________________________
Yn ddiweddar cynhaliodd Wales Interactive eu prosiect Media Cymru sef yr Her Ffilm Ryngweithiol, oedd yn weithdy ar gyfer awduron.
Yn dilyn galwad agored ym mis Medi 2022, croesawodd gweithdai The Secrets to Writing Interactive Content ddau ar bymtheg o bobl greadigol, i roi tro ar adnodd naratif arloesol Wales Interactive (WIST) , a datblygu eu hysgrifennu i’r lefel nesaf.
Roedd hwn yn gyfle i awduron newydd a sefydledig weithio gyda Wales Interactive sy’n gwmni sydd wedi ennill gwobrau, ar Ymchwil a Datblygu yn ei gamau cynnar i feistroli’r grefft o adrodd straeon rhyngweithiol neu ddarganfod gwahanol genres.
Rhoddwyd arweiniad cam wrth gam i’r cyfranogwyr ar sut i greu straeon rhyngweithiol llwyddiannus, a hynny dan ofal Cynhyrchydd Gweithredol a Chyd-sylfaenydd Wales Interactive, Richard Pring a’r Cynhyrchydd Gemau Fideo, Samuel Leigh.
Dywedodd Samuel:
“Rydyn ni’n angerddol ynghylch creu gweithiau gwreiddiol sy’n swyno cynulleidfaoedd ac yn rhoi Cymru ar y map.
Fe gyflwynon ni weithdy cwrs carlam ar gyfer awduron newydd a phrofiadol i drin a thrafod ffyrdd arloesol o greu straeon rhyngweithiol llwyddiannus.
Diolch i’r gweithdy hwn a chymorth gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant, bu’n bosib i awduron symud ymlaen ar hyd llwybr datblygu straeon rhyngweithiol newydd a chyffrous a sut rydym yn eu hadrodd.”
Ymhlith y pynciau dan sylw roedd: egwyddorion naratif rhyngweithiol, manteision cyfuno ffilm, gemau a chyfryngau eraill, naratifau canghennog a mireinio setiau sgiliau ysgrifennu. Roedd y cyfranogwyr hefyd ymhlith y cyntaf i roi tro ar adnodd naratif arloesol Wales Interactive, a byddant yn elwa o gefnogaeth barhaus 1-i-1 gan weithwyr proffesiynol yn y diwydiant drwy gydol proses Ymchwil a Datblygu 12 mis o hyd.
Erbyn diwedd eu taith gyda Wales Interactive, bydd cyfranogwyr wedi dysgu sut i wthio ffiniau adrodd straeon rhyngweithiol a bydd unigolion llwyddiannus yn darganfod sut i berffeithio syniad, gan arwain o bosibl at gynnyrch neu wasanaeth sy’n barod ar gyfer y farchnad.
Dywedodd yr actor a’r awdur, Bethan Leyshon, a oedd yn bresennol yn y gweithdy:
“Yr hyn rydw i wedi mwynhau dysgu amdano yn fawr yw sut i ddefnyddio naratifau canghennog a’r cyfleoedd sydd ar gael i ddefnyddio hynny, nid yn unig mewn gemau fideo ond mewn cyfryngau eraill hefyd.”
Dywedodd cyfranogwr arall, Allan Plenderleith, Awdur a Chyfarwyddwr Live Action Video Games:
Archwilio’r posibiliadau yw hanfod hyn mewn gwirionedd ac rydym yn dal i feddwl am syniadau, bydd rhai’n gweithio ac eraill ddim, ond rydyn ni’n gwthio’r ffiniau i weld beth sy’n bosib, a gyda gobaith fe fyddwn ni’n creu rhywbeth newydd a chyffrous.”
I gael rhagor o wybodaeth am yr Her Ffilm Ryngweithiol ac i gael y newyddion diweddaraf am y prosiect hwn, ewch i dudalen Wales Interactive, ar ein gwefan.