string(54) "/cym/media-cymru-yn-buddsoddi-180000-o-arian-sbarduno/" Skip to main content
int(717)
News

Cyhoeddwyd ar 02.05.2023

Media Cymru yn buddsoddi £180,000 o arian sbarduno mewn prosiectau arloesi

Bydd gweithwyr llawrydd a busnesau bach a chanolig yng Nghymru yn elwa ar arian sbarduno i gyflawni gwaith ymchwil, datblygu ac arloesi camau cynnar.   

Rydyn ni wedi dyfarnu arian i ddeunaw o brosiectau sy’n archwilio ystod o syniadau newydd, gan gynnwys ym meysydd cynhyrchu rhithwir (VP), technolegau trochol, a phrofiadau rhyngweithiol.   

Mae Cronfa Sbarduno Media Cymru yn hwyluso ymchwil, datblygu ac arloesi ar gyfer creu cynhyrchion, gwasanaethau a phrofiadau newydd yn sector y cyfryngau. Bydd gan y garfan a ariennir rhwng tri a phum mis i gwblhau eu prosiect, gyda chymorth y partneriaid PDR a Sefydliad Alacrity.  

Meddai’r Uwch Gynhyrchydd Ymchwil a Datblygu a Rheolwr Ariannu Media Cymru, Lee Walters: “Mae carfan sbarduno gyntaf Media Cymru yn cynnwys amrywiaeth gyffrous o brosiectau a fydd nid yn unig yn cyfoethogi ac yn amrywio’r sector wrth i ni symud tuag at dirlun cyfryngau mwy cynhwysol a sero net, ond byddan nhw’n gwella dealltwriaeth pobl o Gynhyrchu Rhithwir, yn archwilio technolegau a phrofiadau trochol, yn gwella profiad dysgwyr o bell, yn creu cyfleoedd newydd ym maes eChwaraeon, ac yn pontio’r bwlch rhwng asedau prop digidol a ffisegol.  

“Rwy’n edrych ymlaen i weld pa syniadau mae’r gweithwyr llawrydd a’r busnesau bach a chanolig yma o Gymru yn eu datgelu yn ystod eu prosiectau ymchwil a datblygu camau cynnar.”  

Mae’r prosiectau llwyddiannus a gafodd arian sbarduno ym maes cynhyrchu rhithwir yn cynnwys: ymchwil i sut gall ymagweddau goleuo traddodiadol a thechnolegau newydd uno i greu cynnyrch cynaliadwy yn y dyfodol; archwilio pa mor gyflym y gellir cynhyrchu cynnwys o ansawdd ffilm gan ddefnyddio cynhyrchu rhithwir; datblygu datrysiad ystafell drochol sy’n gynaliadwy yn fasnachol ac yn broffidiol yn gymdeithasol, sy’n lleihau’r rhwystrau mynediad at greu a phrofi profiadau trochol a rennir.  

Mae prosiectau eraill a ariannwyd yn archwilio cynhyrchu eChwaraeon dwyieithog yng Nghymru, platfform hyfforddi darlledu aml-gamera o bell, defnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) i gefnogi’r gofod cerddoriaeth catalog a phrofiadau sain trochol mewn gofodau a chymunedau cwiar.  

Bydd prosiect un o ymgeiswyr llwyddiannus y gronfa sbarduno, Mo Jannah, yn archwilio defnyddio realiti rhithwir (VR) mewn cyfiawnder adferol ac adsefydlu yng nghyd-destun cyfiawnder troseddol, gan ddatblygu teclynnau dysgu cymdeithasol mewn lleoliadau addysgol rhyngweithiol.   

Dywedodd Mo: “Dw i’n llawn cyffro o gael cyfle i fod yn rhan o’r rhaglen gyffrous yma. Mae fy syniad yn canolbwyntio ar greu teclyn dysgu cymdeithasol y mae modd ei addasu a’i ddefnyddio fel adnodd addysgol, sy’n gallu ateb anghenion unigryw y diwydiant targed.”

Bydd ymgeisydd arall sydd wedi llwyddo i gael arian sbarduno, Angela McMillan, yn defnyddio technolegau aml-gyfrwng trochol mewn rhaglenni therapi lleddfu gorbryder i bobl ifanc a’u teuluoedd.

Yn ôl Angela: “Rwy’n falch iawn o fod yn rhan o brosiect Arian Sbarduno Media Cymru er mwyn cael cyfle i archwilio sut y gellid defnyddio technoleg drochol mewn rhaglenni therapi, i helpu pobl ifanc ddeall eu profiadau a lleddfu gorbryder.”

Gyda’i gilydd, bydd prosiectau llwyddiannus y gronfa sbarduno yn cyfrannu at adeiladu diwydiant cyfryngau mwy teg, mwy gwyrdd, sy’n cael mwy o gydnabyddiaeth ryngwladol ac sy’n fwy economaidd gynaliadwy yng Nghymru.  

Cronfa Sbarduno Media Cymru yw’r gronfa gyntaf sydd ar agor i’r sector fel rhan o’r Ffrwd Arloesedd – sef cyfres o alwadau ariannu sy’n digwydd drwy’r flwyddyn. Bydd y buddsoddiad hwn yn rhoi cyfle i bobl greadigol yng Nghymru ddatblygu syniadau sydd ar gamau cynnar iawn at fod yn brosiectau wedi’u dilysu’n llawn, a fydd o fudd i sector y cyfryngau yng Nghaerdydd, Cymru a’r tu hwnt.   

Ar ôl i’r prosiectau a gafodd gyllid sbarduno ddod i ben, gallai ymgeiswyr wneud cais am gyllid datblygu o hyd at £50,000, a fydd yn lansio ym mis Gorffennaf 2023. Bydd y cyllid datblygu yn targedu prosiectau ymchwil, datblygu ac arloesi sy’n dangos potensial clir ar gyfer cynnyrch neu wasanaeth diriaethol. Os ydych chi’n weithiwr llawrydd neu’n fusnes bach a chanolig yng Nghymru sydd â diddordeb yn y gronfa ddatblygu, ewch i: https://media.cymru/projects/innovation-pipeline/  

Prosiectau sydd wedi’u hariannu:

  • Cynhyrchu Rhithwir ac integreiddio goleuadau (Mark Holowina, Firebug Lighting)
  • Datblygu Cynhyrchu Echwaraeon yng Nghymru (John Jackson, EsportsWales CIC)
  • Cynhyrchu Rhithwir – Cyflawni Cyflym (Phillip Moss, Small and Clever Productions)
  • Fi, Fy Realiti a Dy Realiti (Me Mine & Your Reality) (M.M.Y Realiti) (Mo Jannah, Black Gold Productions)
  • Defnyddio technolegau trochi amlgyfrwng mewn rhaglenni therapi lleihau gorbryder ar gyfer pobl ifanc a’u teuluoedd (Angela McMillan, Elemental Health Ltd)
  • Yr Aml Le (The Multi Camp) – Platfform hyfforddi o bell ar gyfer darlledu aml-gamera (Rhys Edwards, Rhys Edwards Ltd)
  • Cynnwys newydd / fformatau newydd ar gyfer gofod y catalog cerddoriaeth (Joe Howden, Dark Arts Digital Ltd)
  • Creu-lleoedd Trochi Cwir (Immersive Queer Placemaking) (Shane Nickels)
  • Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial ym maes hyfforddiant digidol rhyngweithiol yn ymwneud â thrawma (Suzanne Phillips, Empathi Ltd)
  • Arloesi Digidol ar gyfer Ymarferion yn y Celfyddydau Perfformio (Jack Furness, Shadwell Opera)
  • Y tŷ propiau rhithwir: pontio’r bwlch rhwng asedau digidol 3D a’r ffurfiau ffisegol ohonynt (Morgan Williams, Rusty Design Limited (RDL))
  • Alcemi Trefol (Urban Alchemy) (Ducan Hallis)
  • Amdani: cwmni cynhyrchu ffilm a theledu carbon niwtral, sy’n gwmni sy’n seiliedig ar berchnogaeth gydweithredol (Amy Daniel, Amdani Co.)
  • PIE (Amgylcheddau Trochi Cludadwy) (Portable Immersive Environments) neu DP (Trochi Cludadwy) (Portable Immersion) (Matt Wright, Pi Productions UK Ltd)
  • Llwybrau Undod ym maes y Cyfryngau (Solidarity in Media Pathways) (Mohamad Miah, Cylch Trefol Casnewydd)
  • ProductionOS: y Platfform Creu Ffilmiau Masnachol (Gruff Vaughan, Storm And Shelter Ltd)
  • Cynhyrchu Rhithwir ar gyfer Rhaglennu Ffeithiol (Cerys Hodgson, EastSleep Media)
  • Cynhyrchu Rhithwir Hygyrch (Rhys Miles Thomas, Glass Shot).