Cysylltwch â Ni
Media Cymru
Sbarc, Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ
Cyhoeddwyd ar 26.06.2023
Dragon Post yn ennill yng Ngwobrau Rhyngwladol FOCAL 2023
Mae partner consortiwm Media Cymru, Dragon Post (Cymru) yn dathlu bod un o’u prosiectau adfer ffilmiau a gomisiynwyd gan y British Film Institute, The Draughtsman’s Contract (Peter Greenaway, 1982), wedi ennill y Prosiect neu Deitl Adfer a Chadwraeth Archif Gorau yng Ngwobrau Rhyngwladol FOCAL 2023.
Mae The Draughtsman’s Contract yn ffilm arwyddocaol iawn yn hanes sinema Prydain ac ar gyfer ei phrif ariannwr, y British Film Institute (BFI). Gweledigaeth y Cyfarwyddwr Peter Greenaway oedd defnyddio sinema yn gyfrwng wedi’i seilio’n fwy ar ddelwedd, gyda manylion cywrain, goleuo beiddgar a chyfansoddiadau planimetrig cytbwys. Roedd hyn yn llwyddiant ysgubol ac yn cyfiawnhau ffydd y BFI yn y potensial i ffilmiau o’r fath ddenu cynulleidfa brif ffrwd.
Yn dilyn ychydig dros 11 mis o waith adfer trylwyr gan Dragon Post, gan weithio ar y cyd â’r BFI a Peter Greenaway ei hun, roedd y prosiect gorffenedig yn barod. I ddathlu 40 mlynedd ers y ffilm wreiddiol, cafodd ei rhyddhau mewn 4K am y tro cyntaf yn nigwyddiad Venice Classics ym mis Medi 2022 yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Fenis. Wedi hynny, cafodd ei rhyddhau yn sinemâu’r DU, ar Blu-ray ac ar y BFI Player o fis Tachwedd 2022.
Dywedodd Paul Wright, Rheolwr a Chyfarwyddwr Technegol Dragon Post, “I ni, mae’n fraint ac yn anrhydedd bod y BFI unwaith eto wedi dangos ei ffydd yn ansawdd ein gwaith adfer, gan ein hymddiried gydag un o’r ffilmiau Prydeinig mwyaf rhyfeddol ac eiconig,The Draughtsman’s Contract. Mae’r ffaith bod y gwaith hwnnw’n cael ei gydnabod gan sefydliad uchel ei barch FOCAL yn ein gwneud yn falch tu hwnt.”
Ynglŷn â Dragon Post
Mae Dragon Post yn gyfleuster adfer, ôl-gynhyrchu a darparu digidol arobryn ar flaen y gad yn y diwydiant, wedi’i leoli yn Seren Stiwdios Caerdydd.
Bydd prosiect Dragon Post Media Cymru, Cloud-Based Post Production, yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i lywio dulliau ôl-gynhyrchu newydd yn y cwmwl. I ddysgu rhagor a chael y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect hwn, ewch i’w tudalen we Media Cymru.