string(155) "/cym/mae-cronfa-datblygu-media-cymru-bellach-yn-agor-gall-arloeswyr-ym-maes-y-cyfryngau-yng-nghymru-wneud-cais-am-gyllid-ymchwil-a-datblygu-o-hyd-at-50000/" Skip to main content
int(867)
News

Cyhoeddwyd ar 31.07.2023

Y Gronfa Ddatblygu nawr ar agor – Gall arloeswyr ym maes y cyfryngau yng Nghymru wneud cais am gyllid ymchwil a datblygu o hyd at £50,000

Rydym wedi lansio galwad am geisiadau am gyllid gan bobl greadigol yng Nghymru i ymchwilio a datblygu prosiectau sy’n cael eu gyrru gan arloesedd yn sector y cyfryngau 

Pwrpas y gronfa yw creu cynnyrch, gwasanaethau neu brofiadau diriaethol yn sector y cyfryngau a fydd yn creu effaith economaidd uniongyrchol.  

Rhan o Ffrwd Arloesedd Media Cymru – cyfres o gyfleoedd hyfforddi a chyllido – mae’r Gronfa Ddatblygu ar agor i unigolion a chwmnïau wedi’u sefydllu yng Nghymru sydd â phrofiad a dealltwriaeth gadarn o ymchwil, datblygu ac arloesi (RD&I).

Yn ôl Lee Walters, Uwch Gynhyrchydd Ymchwil a Datblygu a Rheolwr Ariannu: “Mae ein gwaith hyd yma wedi dangos bod sector y cyfryngau ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, a Chymru, yn fywiog ac yn llawn syniadau a thalent newydd. Mae’r rownd gyntaf hon o Gyllid Datblygu Media Cymru wedi’i anelu at feddylwyr creadigol yn sector y cyfryngau sy’n awyddus i ymchwilio a datblygu cynhyrchion, gwasanaethau a phrofiadau newydd.  

“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gydag ymgeiswyr llwyddiannus ar brosiectau uchelgeisiol sy’n arddangos pŵer arloesol ac economaidd y diwydiant.”   

Rydym yn chwilio am brosiectau sy’n canolbwyntio’n benodol ar dechnoleg ymdrochol, gan gynnwys cynhyrchu rhithwir, adrodd straeon ymdrochol, a thechnolegau realiti estynedig (realiti estynedig, rhithwir a chymysg).   

Anogir prosiectau sy’n canolbwyntio ar offer sy’n cefnogi cynhyrchu, dosbarthu a defnyddio cyfryngau amgylcheddol cynaliadwy neu rai sydd â diddordeb brwd mewn cynhyrchu dwyieithog ac amlieithog i ymgeisio.  

Mae busnesau ac unigolion sy’n gweithio ar greu lleoedd a chynnwys sy’n gysylltiedig â thwristiaeth, neu sydd â syniadau ar gyfer datblygu offer i wella prosesau cynhyrchu a phrosiectau ym maes gemau yn addas ar gyfer y gronfa. Mae gennym ni hefyd ddiddordeb mewn clywed gan y rhai sy’n datblygu  adnoddau sy’n annog modelau busnes newydd a chynhwysol yn sector y cyfryngau.   

Mae’r Gronfa Ddatblygu wedi derbyn cymorth gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol. 

Yn ôl Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Bydd dyfodol y diwydiannau creadigol yn cael ei bennu gan ymchwil, datblygiad a dealltwriaeth heddiw o’r potensial enfawr sydd yn y sector hwn, ac felly rwy’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yn y rownd hon o Ffrwd Arloesedd Media Cymru. 

“Drwy gydweithio fel hyn y gallwn ddarganfod talent, ariannu syniadau a rhoi’r llwyfan sydd ei angen ar bobl greadigol i gael effaith gadarnhaol hirdymor.” 

I wneud cais am Gronfa Datblygu neu i gael gwybod mwy am gyfleoedd Ffrwd Arloesedd Media Cymru, ewch i www.media.cymru. Os hoffech siarad ag aelod o dîm Media Cymru i weld a ydych chi’n gymwys ar gyfer derbyn arian o’r Gronfa Ddatblygu neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, gallwch drefnu cyfarfod un-i-un ar-lein drwy ebostio media.cymru@caerdydd.ac.uk 

Mae’r rownd hon o gyllid Media Cymru yn dilyn Cronfa Sbarduno a ddyfarnwyd i 18 o brosiectau ym mis Mawrth a dyma’r cyfle cyntaf i wneud cais am hyd at £50,000 fel rhan o’r Ffrwd Arloesedd. Croesewir Prosiectau Sbarduno Media Cymru a ariannwyd yn flaenorol i wneud cais am gyllid i ddatblygu eu syniad presennol ymhellach. 

Gwnewch gais am Gronfa Datblygu neu ragor o wybodaeth am gyfleoedd Ffrwd Arloesedd