string(30) "/cym/projects/ffrwd-arloesedd/" Skip to main content

Ffrwd Arloesedd  

Cyfres o rowndiau cyllido wedi’u targedu a chyfleoedd hyfforddi sy’n canolbwyntio ar sector y cyfryngau, i fusnesau ac unigolion creadigol.

Beth yw'r Ffrwd Arloesedd? 

Mae’r Ffrwd Arloesedd yn gyfres o rowndiau cyllido a chyfleoedd hyfforddi wedi’u targedu sydd wedi’u cynllunio i ddatblygu cwmnïau ac unigolion yn sector y cyfryngau ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd a ledled Cymru.

Y nod yw cynyddu eu gallu i gynnal ymchwil, datblygu ac arloesi ystyrlon. Gall hyn fod o ddatblygu yn y cyfnod cynnar hyd at weithgarwch graddfa, i arwain at fwy o syniadau, amrywiaeth a thwf i’r diwydiant.

Cronfa Sbarduno 2024 – Ceisiadau ar agor

Gwahoddir busnesau a gweithwyr llawrydd creadigol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd a ledled Cymru i wneud cais am hyd at £10,000, a hynny er mwyn ymchwilio i syniadau arloesol ar gyfer cynnyrch, gwasanaethau a phrofiadau newydd yn sector y cyfryngau a datblygu syniadau o’r fath.

Cwmpas

Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn ceisiadau sy’n ymwneud â:

  • Fformatau cyfryngau newydd a ffyrdd newydd arloesol o greu cynnwys
  • Cynhyrchu rhithwir (gan gynnwys cydgyfeirio rhith-gynhyrchu a chynhyrchu traddodiadol)
  • Adrodd straeon ymdrochol trwy dechnolegau Realiti Estynedig (XR), gan gynnwys Realiti Rhithwir (VR), Realiti Estynedig (AR) a Realiti Cymysg (MR)
  • Arloesi mewn cynhyrchu cynnwys gêm/gemau (gan gynnwys cydgyfeirio â chyfryngau eraill)
  • Y defnydd moesegol o Ddeallusrwydd Artiffisial wrth gynhyrchu cyfryngau a chynnwys
  • Creu lleoedd a thwristiaeth ddiwylliannol/cyfryngol
  • Modelau busnes a phrosesau cynhyrchu cyfryngau newydd a chynhwysol
  • Atebion cynaliadwy i heriau sero net a datgarboneiddio’r sector sgrîn, yn enwedig y rhai sy’n ymateb i ganfyddiadau Bargen Newydd y Sgrîn (SND) Cynllun Trawsnewid Cymru ddiweddar
  • Cynhyrchu dwyieithog
  • Dulliau newydd o gyflwyno newyddion a gwybodaeth gyhoeddus.

Rydym hefyd yn awyddus i gefnogi prosiectau sy’n mynd i’r afael â rhai neu bob un o’n pedwar piler strategol: Twf, Gwyrdd, Teg, Byd-eang.

Nid yw’r Gronfa Sbarduno’n addas ar gyfer:

  • Creu cynnwys generig (er enghraifft, datblygiad safonol ffilmiau byr, dramâu, digwyddiadau cerddoriaeth fyw, ffilmiau nodwedd a chynlluniau peilot teledu)
  • Datblygiad busnes cyffredinol
  • Comisiynau celf untro.

Bydd gan yr ymgeiswyr llwyddiannus rhwng tri a chwe mis i gwblhau eu gwaith ymchwil a datblygu, gyda chymorth ein partneriaid consortiwm PDR a Sefydliad Alacrity.

Beth yw Ymchwil a Datblygu?

Diffinnir gweithgareddau Ymchwil a Datblygu fel gwaith creadigol a systematig a wneir i fynd i’r afael â heriau ac i greu cynhyrchion, gwasanaethau, prosesau neu brofiadau newydd neu well. Dysgwch fwy am Ymchwil a Datblygu mewn cyd-destun cyfryngau.

Gwyliwch ein recordiad webinar

Os hoffech ddysgu mwy am y broses ymgeisio, cael atebion i gwestiynau cyffredin a chlywed gan rai o brosiectau llynedd, gallwch wylio’r recordiad o’n webinar gwybodaeth a gynhaliwyd ddydd Iau 14 Mawrth.

Y broses ymgeisio

Sylwer, mae’n rhaid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio’r ffurflen ar-lein. Gofalwch eich bod wedi darllen y nodiadau canllaw cyn gwneud cais.  

Os oes gennych chi ofynion penodol a fyddai’n gwneud y broses ymgeisio’n fwy hygyrch (fel cyngor, cymorth ysgrifennu neu gymorth darllen), neu os hoffech chi drafod fformatau eraill (fideo neu sain, naratif llais, ffont mawr, testun plaen neu iaith arall), ewch ati i ebostio media.cymru@caerdydd.ac.uk neu ffonio 02922 511 434.

Mae ceisiadau ar agor: 26 Chwefror 2024
Dyddiad cau: 8 Ebril 2024 hanner dydd

Lawrlwytho nodiadau canllaw 

Cyflwyno cais…

Cyfleoedd cyllido a hyfforddi 2023-2025 

Arloesedd i Weithwyr Creadigol: Cwrs pum diwrnod i gefnogi unigolion sy’n meddwl am ddechrau busnes neu ddatblygu cynnig ariannu ymchwil, datglygu ac arloesi am y tro cyntaf.

Lab Syniadau: Gweithdy tridiau wedi’i anelu at y rhai sydd â mwy o brofiad o weithio yn sector y cyfryngau.

Arian Sbarduno: Hyd at £10,000 i weithwyr llawrydd a busnesau bach a chanolig ddatblygu syniadau ar gyfer cynhyrchion a gwasanaethau newydd.

Cronfa Ddatblygu: Hyd at £50,000 i fusnesau ddatblygu prosiectau ymchwil, datblygu ac arloesi sy’n dangos potensial clir ar gyfer cynnyrch neu wasanaeth diriaethol.

Uwchraddio: Hyd at £250,000 ar gyfer prosiectau o raddfa ac uchelgais sylweddol sydd â’r potensial i fod yn drawsnewidiol i sector y cyfryngau a chael effaith ryngwladol.

Gwyrddio’r Sgrîn: Hyd at £250,000 ar gyfer syniadau, cynnyrch a gwasanaethau sydd â’r potensial i gyflawni newid amgylcheddol cadarnhaol pendant ar draws y sector.

Ffyrdd eraill o gymryd rhan  

Partneriaethau Her wedi’u Cyd-greu: Gweithio mewn partneriaeth gyda ni ar alwadau ariannu ar y cyd i fynd i’r afael â heriau ymchwil, datblygu ac arloesi a nodwyd neu gyfleoedd masnachol sy’n dod i’r amlwg.

Partneriaethau Her wedi’u Cyd-greu

Cysylltwch â ni am sgwrs

People working on laptop and writing on post-it note

Newyddion: Lansio Cronfa Sbarduno Media Cymru

Fe gawsom sgwrs ag Uwch Gynhyrchydd Ymchwil a Datblygu a Rheolwr Ariannu, Lee Walters, i ddarganfod rhagor am y cyfle.

Rhagor o wybodaeth
Ffrwd Arloesedd‏

Newyddion: Media Cymru yn buddsoddi £180,000 o arian sbarduno mewn prosiectau arloesi

Rydyn ni wedi dyfarnu arian i ddeunaw o brosiectau sy’n archwilio ystod o syniadau newydd, gan gynnwys ym meysydd cynhyrchu rhithwir (VP), technolegau trochol, a phrofiadau rhyngweithiol.

Rhagor o wybodaeth