string(80) "/cym/perifery-showcases-object-matrixs-media-cloud-cymru-prototypes-at-ibc-2023/" Skip to main content
int(1005)
News

Cyhoeddwyd ar 21.09.2023

Perifery yn cyflwyno prototeipiau Media Cloud Cymru gan Object Matrix i’r byd yn ystod IBC 2023

Perifery stand at IBC 2023

Mae gweithio o bell yn wych ar gyfer llawer o swyddi… ond sut ydych chi’n cyflawni hynny ar gyfer golygu cyfryngau pan fo’n draddodiadol wedi angen caledwedd arbenigol a thrin meintiau enfawr o ddata sain a fideo? Mae Object Matrix yn arwain y ffordd o ran galluogi hyd yn oed y llifoedd gwaith cyfryngau mwyaf cymhleth i gael eu gwneud ar-lein trwy’r cwmwl.

Bu Object Matrix, un o’r 22 o bartneriaid Consortiwm Media Cymru, yn dangos ei ddawn yn ystod IBC 2023 yn rhan o bortffolio Perifery o’i atebion arloesol, ynghyd â’r archif o gyfryngau cwmwl a hybrid a’r datrysiad llif gwaith, sef Swarm.

Pobl yn siarad ar stondin Perifery yn IBC 2023Mae Object Matrix wedi elwa o gyllid ymchwil a datblygu gan Media Cymru. Mae prosiect Media Cloud Cymru, a gefnogir gan Media Cymru, yn cynnig dull arloesol o storio a gwasanaethau ar-lein i bobl greadigol yng Nghaerdydd a’r rhanbarth er budd busnesau lleol. Roedd Perifery yn arddangos un o brototeipiau’r prosiect yn ystod IBC, y sioe masnach ddarlledu fwyaf yn Ewrop.

Platfform storio gwrthrychau sy’n canolbwyntio ar y cyfryngau yw Object Matrix. Cafodd ei brynu gan gwmni o UDA, sef DataCore Software yn gynharach yn 2023, ac ar ôl hyn daeth yn rhan o uned fusnes Perifery.

Rhaglen sy’n rheoli cyfryngau a metadata ar y rhyngrwyd yw Object Matrix Vision, gan roi cynnwys yn nwylo gweithwyr proffesiynol creadigol lle a phryd bynnag y mae ei angen arnyn nhw. Mae’r cyhoeddiad a wnaed yn IBC am gyfuno Object Matrix Vision yn rhan o Swarm yn dangos sut mae technoleg a ddatblygwyd yng Nghaerdydd yn cael ei chyflwyno i ddefnyddwyr yn fyd-eang.

Yn draddodiadol, roedd data’r cyfryngau yn cael ei storio ar gyfrifiaduron ar y safle gan gwmnïau’r cyfryngau. Roedd maint ffeiliau mawr yr asedau fideo yn golygu nad oedd gweithio o bell yn ymarferol o ran llifoedd gwaith soffistigedig ym maes y cyfryngau. Mae gwasanaethau cwmwl Object Matrix yn cysylltu pobl â’u data cyfryngol unrhyw bryd ac unrhyw le. Mae hyn yn galluogi gweithio mwy hyblyg, gan gynnwys cydweithredu’n hybrid ac o bell. Gosodwyd mwy na 200 o glystyrau technoleg storio data Object Matrix mewn nifer o gwmnïau mwyaf blaenllaw’r byd ym maes y cyfyngau.

Bydd prosiect Media Cloud Cymru, sef Object Matrix, yn caniatáu i fideos gael eu rhannu’n gyflym ac yn ddiogel rhwng sefydliadau, heb fod angen symud data allan o’r cwmwl ac i mewn iddo unwaith eto. Hefyd, bydd y prosiect yn ymchwilio i’r broses o drosglwyddo data 5G i mewn ac allan o’r cwmwl yn ystod digwyddiadau mawr, gan ddefnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) i helpu i drefnu a chatalogio cronfeydd data’r cyfryngau.