string(69) "/cym/media-cymrus-180000-investment-in-innovative-seed-fund-projects/" Skip to main content
int(1326)
News

Cyhoeddwyd ar 21.08.2024

Buddsoddiad Media Cymru o £180,000 mewn prosiectau cronfa sbarduno arloesol

man talking to an audience a media cymru logo is behind him

Cyhoeddi carfan newydd o fusnesau a mentrau bach a chanolig sydd wedi llwyddo i dderbyn o’r Gronfa Sbarduno ar gyfer ymchwil, datblygu ac arloesi cam cynnar (R, D&I). 

Rydyn ni wedi buddsoddi bron £180,000 mewn cyllid ar gyfer 18 prosiect i ddatblygu amrywiaeth o syniadau arloesol yn sector y cyfryngau ar draws meysydd technoleg trochi, cynhyrchu rhithwir (VP) a phrofiadau rhyngweithiol, defnydd moesegol o Ddeallusrwydd Artiffisial (AI), ac atebion cynaliadwy i heriau sero net. 

Mae hyn yn dilyn rownd ariannu flaenorol, lle dyfarnwyd bron £180,000 i 18 o brosiectau newydd, yr aeth 10 ohonynt ymlaen i ddatblygu eu prosiectau ymhellach drwy Gronfa Datblygu Media Cymru yn 2023/24. 

Mae Cronfa Sbarduno Media Cymru wedi’i chynllunio i roi hwb sylweddol i greu cynhyrchion, gwasanaethau a phrofiadau newydd ar draws sector y cyfryngau ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd  (CCR) fel rhan o’u cenhadaeth ehangach i chwyldroi a diogelu sector y cyfryngau ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd a’r tu hwnt.  

Bydd gan y 18 prosiect hyd at 5 mis i weithio ar eu prosiectau, gyda chymorth ac arweiniad gan bartneriaid Media Cymru, PDR a Sefydliad Alacrity.  

Dywedodd Rheolwr Cronfa Media Cymru, James Atkinson: “Yn dilyn proses ymgeisio lwyddiannus a chystadleuol iawn, rydym yn falch o gyhoeddi carfan newydd o brosiectau sy’n cychwyn ar daith ymchwil a datblygu newydd a fydd yn cyffwrdd â meysydd archwilio newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg yn y sector. Mae Media Cymru yn ymroddedig i osod y sylfaen ar gyfer dyfodol teg, gwyrdd gyda ffocws ar dwf ar gyfer sector y cyfryngau ac mae prosiectau’r Gronfa Sbarduno eleni yn cyd-fynd yn berffaith â’n gweledigaeth ar gyfer y sector. Rydym yn edrych ymlaen at weld sut bydd y syniadau hyn yn esblygu yn ystod y misoedd nesaf…”  

Mae’r prosiectau llwyddiannus a ariennir gan y gronfa sbarduno yn 2024 yn cynnwys Y Pod Cyf., a fydd yn ymchwilio i effeithiolrwydd, moeseg a chost defnyddio AI o’r radd flaenaf ar gyfer gwefuseirio i ac o’r Gymraeg wrth gynhyrchu fideo 

Dywedodd Cyfarwyddwr Y Pod Cyf, Aled Jones: “Mae cael cefnogaeth Media Cymru yn golygu y gallaf ddatblygu ac ymchwilio sut y gallwn archwilio effeithiau posibl a goblygiadau moesegol defnyddio offer lipsync AI wrth gynhyrchu cynnwys fideo Cymraeg i Saesneg i gwmpasu sut y gellir eu pecynnu i’w cynnig fel platfform i farchnadoedd â diddordeb. Hoffwn ofyn cwestiynau o gwmpas y defnydd o AI, sut y gall y dechnoleg gefnogi prosiectau Cymraeg, a sut mae defnyddio’r dechnoleg yn gyfrifol.”  

Y Pod Cyf.’s Director, Aled Jones said: “Having Media Cymru’s support means we’re able to develop and research how we can examine the possible effects and ethical implications of using AI lip-syncing tools while producing Welsh-to-English video content to guide how we can package as a platform for markets that might have an interest. We’d like to ask questions around the use of AI, how the technology could support Welsh projects and how we can use it responsibly.”  

Hefyd ar fin cychwyn ar eu taith ymchwil fel rhan o Gronfa Sbarduno 2024 mae Truth Department, a fydd yn ymchwilio a yw’n bosibl defnyddio hawliau addysgol ffilmiau dogfen nas defnyddiwyd ac o bosibl eu haddasu fel offer dysgu yn y gweithle ar gyfer newid cymdeithasol. 

Dywedodd Dewi Gregory, cynhyrchydd Truth Department: Gyda’r prosiect hwn rydym ni’n mentro tu hwnt i’n busnes a chwsmeriaid arferol ac mae’n wych cael gwneud hynny gyda thîm sy’n arbenigo mewn dulliau datblygu.  Roedd hi’n amlwg o’r cyfarfod cynta gyda PDR bod nhw’n mynd i’r afael â manylion y prosiect o ddifrif.  Y gobaith yn y pen draw yw taro ar gynllun clir i esgor ar fusnes llewyrchus, cyflwyno cynulleidfaoedd newydd i ffilmiau dogfen ac efallai ddylanwadu ar ymddygiad er gwell.  Braf cael cymorth wrth anelu’n uchel felly!” 

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Creadigol Cowshed, Charlie Simpson: Rydym wrth ein bodd ein bod wedi derbyn grant cronfa sbarduno Media Cymru ar gyfer ein prosiect mewn cydweithrediad â Cerebra. Mae’r prosiect hwn yn cychwyn ein hymchwil ar sut i oresgyn heriau y gallai pobl eu hwynebu gyda hygyrchedd wrth gynhyrchu a chreu cynnwysgan ddechrau gyda phobl ifanc â chyflyrau ar yr ymennydd. 

Yn Cowshed,un elfen o ethos ‘gweithio’n ystyrloni ni yw ein bod yn credu bod gan bawb stori i’w hadrodd ac y byddwn, drwy roi llwyfan i’r straeon hyn i gyd yn golygu bod pawb yn elwa. Rydym felly yn canolbwyntio ein sylw ar wneud cynhyrchu a chreu cynnwys yn decach, yn fwy hygyrch ac yn agored i bawb yng Nghymru.” 

Gyda’i gilydd, bydd prosiectau llwyddiannus y gronfa sbarduno yn cyfrannu at adeiladu diwydiant cyfryngau mwy teg, mwy gwyrdd, sy’n cael mwy o gydnabyddiaeth ryngwladol ac sy’n fwy economaidd gynaliadwy yng Nghymru. 

Mae’r Gronfa Sbarduno yn rhan o Ffrwd Arloesedd – cyfres o alwadau ariannu sy’n rhoi cyfleoedd i’r Gymraeg archwilio a datblygu eu syniadau cam cynnar hyd at brosiectau sydd wedi’u dilysu’n llawn sydd o fudd i’r sector cyfryngau yng Nghaerdydd, Cymru a’r tu hwnt.      

Gwahoddir ymgeiswyr a ariennir gan trwy’r gronfa sbarduno sy’n cwblhau eu prosiectau yn llwyddiannus hefyd i wneud cais am gyllid datblygu o hyd at £50,000, gyda chronfa newydd sydd i fynd yn fyw yn fis Chwefror 2025. Bydd y cyllid datblygu yn targedu prosiectau ymchwil, datblygu ac arloesi sy’n dangos potensial clir ar gyfer cynnyrch neu wasanaeth diriaethol. Os ydych chi’n weithiwr llawrydd neu’n fusnes bach a chanolig yng Nghymru sydd â diddordeb yn y gronfa ddatblygu, ewch i Ffrwd Arloesedd.

Funded projects  

  • Bylines Cymru – Redesigning citizen journalism: in search of true inclusion 
  • Cowshed – Stori Lab by Cowshed x Cerebra 
  • The National Eisteddfod – Exploring Sustainable Eisteddfod Filming with AI 
  • Luke Harris – Empowering Creatives through Ethical AI and Personalised Generative Models 
  • Jess Magness – Prosiect Sain | Sign Project 
  • Chwarel – Automated Consent Verification and Management System for video media production 
  • Y Pod – Llais (voice) – Welsh translation and lipsync for video production 
  • Common Wealth – Expanded Realities – DIY immersive virtual environments for working class audiences 
  • Truth Department – Documentary Learning 
  • yello brick – Gentle Gathering – Quiet Connection in a Noisy World 
  • Creadigol Design – Inclusive Virtual Production Hub for SMEs 
  • Green Shoots Locations – Green Shoots Locations – the Location Agency helping productions make sustainable Location choices
  • Ali Al Anbaki Refugees and Asylum Seekers Assistance (“RASA”) 
  • Rhydda Projects – Collaboration for rapid decarbonisation of energy & transportation in the film & HETV industry 
  • Clare Spencer – WeVersion 
  • Kinetic Pixel – Using AI and LLM to determine trends, analyse and predict outcomes of knowledge-based competitions and quizzes
  • rondo media – The Story Space 
  • Atgof – Director and 1st AD Development