string(30) "/cym/projects/ffrwd-arloesedd/" Skip to main content

Ffrwd Arloesedd  

Cyfres o rowndiau cyllido wedi’u targedu a chyfleoedd hyfforddi sy’n canolbwyntio ar sector y cyfryngau, i fusnesau ac unigolion creadigol.

Beth yw'r Ffrwd Arloesedd? 

Mae’r Ffrwd Arloesedd yn gyfres o rowndiau cyllido a chyfleoedd hyfforddi wedi’u targedu sydd wedi’u cynllunio i ddatblygu cwmnïau ac unigolion yn sector y cyfryngau ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd a ledled Cymru.

Y nod yw cynyddu eu gallu i gynnal ymchwil, datblygu ac arloesi ystyrlon. Gall hyn fod o ddatblygu yn y cyfnod cynnar hyd at weithgarwch graddfa, i arwain at fwy o syniadau, amrywiaeth a thwf i’r diwydiant.

Gweithio mewn partneriaeth gyda ni ar alwadau ariannu ar y cyd i fynd i'r afael â heriau ymchwil, datblygu ac arloesi a nodwyd neu gyfleoedd masnachol sy'n dod i'r amlwg.

Partneriaethau Her wedi’u Cyd-greu

Cysylltwch â ni am sgwrs

Dysgwch am y Ffrwd Arloesedd 

Ffrwd Arloesedd‏

Chwefror 2025: Media Cymru yn dyfarnu bron i £140,000 i BBaChau Cymru yn y rownd ddiwethaf o gyllid sbarduno

Ffrwd Arloesedd‏

Chwefror 2025: Galwad cyllid ymchwil a datblygu derfynol Media Cymru, a’r cyfle olaf i arloeswyr yng Nghymru allu gwneud cais

Ffrwd Arloesedd‏

Medi 2024: “Hydref Toreithiog” o arloesi i’r diwydiannau creadigol

Mae Media Cymru’n cyflwyno cnwd toreithiog o gyfleoedd ariannu i fusnesau, sefydliadau ac unigolion sy’n gweithio yn sector y cyfryngau yng Nghymru, gyda chyfanswm cyfunol o dros £1.2 miliwn ar gael ar draws pum cronfa wahanol.  

Rhagor o wybodaeth
man talking to an audience a media cymru logo is behind him

Awst 2024: Buddsoddiad Media Cymru o £180,000 mewn prosiectau cronfa sbarduno arloesol

Cyhoeddi carfan newydd o fusnesau a mentrau bach a chanolig sydd wedi llwyddo i dderbyn o’r Gronfa Sbarduno ar gyfer ymchwil, datblygu ac arloesi cam cynnar (R, D&I).

Rhagor o wybodaeth
Ffrwd Arloesedd‏

Beth yw Ymchwil a Datblygu?

Fel arfer, rydyn ni’n clywed yr ymadrodd ‘ymchwil a datblygu’ ym meysydd gwyddoniaeth a thechnoleg, ond dyma un o’r pethau rydyn ni’n ceisio ei newid yn Media Cymru. Rydyn ni’n gobeithio gallu troi egwyddorion ac adnoddau ymchwil a datblygu yn arfer safonol yn ein sector creadigol rhanbarthol.

Rhagor o wybodaeth
Ffrwd Arloesedd‏

Ionawr 2024: Media Cymru yn buddsoddi £1 miliwn mewn technolegau newydd arloesol

Mae Media Cymru wedi dyfarnu cyllid i 24 o fusnesau a gweithwyr llawrydd i archwilio ystod o brosiectau arloesol (yn cynnwys deallusrwydd artiffisial moesegol, e-chwaraeon a phrofiadau rhithwirsydd) wedi’u cynllunio i roi hwb i sector y cyfryngau yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth
Ffrwd Arloesedd‏

Mehefin 2023: Gall arloeswyr ym maes y cyfryngau yng Nghymru wneud cais am gyllid ymchwil a datblygu o hyd at £50,000

Rydym wedi lansio galwad am geisiadau am gyllid gan bobl greadigol yng Nghymru i ymchwilio a datblygu prosiectau sy’n cael eu gyrru gan arloesedd yn sector y cyfryngau.

Rhagor o wybodaeth
Ffrwd Arloesedd‏

Mai 2023: Media Cymru yn buddsoddi £180,000 o arian sbarduno mewn prosiectau arloesi

Rydyn ni wedi dyfarnu arian i ddeunaw o brosiectau sy’n archwilio ystod o syniadau newydd, gan gynnwys ym meysydd cynhyrchu rhithwir (VP), technolegau trochol, a phrofiadau rhyngweithiol.

Rhagor o wybodaeth
People working on laptop and writing on post-it note

Ionawr 2023: Lansio Cronfa Sbarduno Media Cymru

Fe gawsom sgwrs ag Uwch Gynhyrchydd Ymchwil a Datblygu a Rheolwr Ariannu, Lee Walters, i ddarganfod rhagor am y cyfle.

Rhagor o wybodaeth