Cysylltwch â Ni
Media Cymru
Sbarc, Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ
Cyhoeddwyd ar 21.09.2023
Perifery yn cyflwyno prototeipiau Media Cloud Cymru gan Object Matrix i’r byd yn ystod IBC 2023
Mae gweithio o bell yn wych ar gyfer llawer o swyddi… ond sut ydych chi’n cyflawni hynny ar gyfer golygu cyfryngau pan fo’n draddodiadol wedi angen caledwedd arbenigol a thrin meintiau enfawr o ddata sain a fideo? Mae Object Matrix yn arwain y ffordd o ran galluogi hyd yn oed y llifoedd gwaith cyfryngau mwyaf cymhleth i gael eu gwneud ar-lein trwy’r cwmwl.
Bu Object Matrix, un o’r 22 o bartneriaid Consortiwm Media Cymru, yn dangos ei ddawn yn ystod IBC 2023 yn rhan o bortffolio Perifery o’i atebion arloesol, ynghyd â’r archif o gyfryngau cwmwl a hybrid a’r datrysiad llif gwaith, sef Swarm.
Mae Object Matrix wedi elwa o gyllid ymchwil a datblygu gan Media Cymru. Mae prosiect Media Cloud Cymru, a gefnogir gan Media Cymru, yn cynnig dull arloesol o storio a gwasanaethau ar-lein i bobl greadigol yng Nghaerdydd a’r rhanbarth er budd busnesau lleol. Roedd Perifery yn arddangos un o brototeipiau’r prosiect yn ystod IBC, y sioe masnach ddarlledu fwyaf yn Ewrop.
Platfform storio gwrthrychau sy’n canolbwyntio ar y cyfryngau yw Object Matrix. Cafodd ei brynu gan gwmni o UDA, sef DataCore Software yn gynharach yn 2023, ac ar ôl hyn daeth yn rhan o uned fusnes Perifery.
Rhaglen sy’n rheoli cyfryngau a metadata ar y rhyngrwyd yw Object Matrix Vision, gan roi cynnwys yn nwylo gweithwyr proffesiynol creadigol lle a phryd bynnag y mae ei angen arnyn nhw. Mae’r cyhoeddiad a wnaed yn IBC am gyfuno Object Matrix Vision yn rhan o Swarm yn dangos sut mae technoleg a ddatblygwyd yng Nghaerdydd yn cael ei chyflwyno i ddefnyddwyr yn fyd-eang.
Yn draddodiadol, roedd data’r cyfryngau yn cael ei storio ar gyfrifiaduron ar y safle gan gwmnïau’r cyfryngau. Roedd maint ffeiliau mawr yr asedau fideo yn golygu nad oedd gweithio o bell yn ymarferol o ran llifoedd gwaith soffistigedig ym maes y cyfryngau. Mae gwasanaethau cwmwl Object Matrix yn cysylltu pobl â’u data cyfryngol unrhyw bryd ac unrhyw le. Mae hyn yn galluogi gweithio mwy hyblyg, gan gynnwys cydweithredu’n hybrid ac o bell. Gosodwyd mwy na 200 o glystyrau technoleg storio data Object Matrix mewn nifer o gwmnïau mwyaf blaenllaw’r byd ym maes y cyfyngau.
Bydd prosiect Media Cloud Cymru, sef Object Matrix, yn caniatáu i fideos gael eu rhannu’n gyflym ac yn ddiogel rhwng sefydliadau, heb fod angen symud data allan o’r cwmwl ac i mewn iddo unwaith eto. Hefyd, bydd y prosiect yn ymchwilio i’r broses o drosglwyddo data 5G i mewn ac allan o’r cwmwl yn ystod digwyddiadau mawr, gan ddefnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) i helpu i drefnu a chatalogio cronfeydd data’r cyfryngau.