Cysylltwch â Ni
Media Cymru
Sbarc, Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ
Teg.
Rydyn ni’n adeiladu sector cyfryngau i Gymru sy’n uchelgeisiol ac yn gynhwysol, ac sy’n gartref i ffilmiau, rhaglenni teledu, gemau, cynnwys ymdrochi a newyddiaduraeth sy’n torri tir newydd.
Mae adeiladu sector cyfryngau sy'n wirioneddol deg i Gymru yn hanfodol er mwyn cyflawni nodau Media Cymru.
Cyfryngau i bawb
Mae creu sector cyfryngau gwirioneddol deg i Gymru yn hanfodol er mwyn cyflawni nodau Media Cymru o gyllido ymchwil a datblygu beiddgar ac unigryw er mwyn arloesi.
Drwy ein rhaglen, rydyn ni’n ariannu ymchwil a datblygu sy’n hyrwyddo arloesi cynhwysol, yn cysylltu diwydiant â’r byd academaidd a sefydliadau’r trydydd sector, ac yn ymchwilio i ffyrdd teg o weithio – a’u rhannu – ar gyfer ein hunain a’r rhai rydyn ni’n gweithio gyda nhw.
Mae gennyn ni gyfrifoldeb i fod yn dryloyw ac yn atebol i’r sector ac i’r rhai rydyn ni’n cydweithio â nhw. Ers 2019, rydyn ni wedi adolygu ein harferion yn rheolaidd ac wedi rhannu gwybodaeth â’n cymuned, gan feithrin tryloywder a gwahodd adborth adeiladol ar ein cynnydd wrth gefnogi amrywiaeth yn y sector cyfryngau.
Rydyn ni’n cydnabod bod cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn broses barhaus, a diben ein hamcanion yw parhau i hyrwyddo cynhwysiant yn ein gwaith ac yn sector y cyfryngau.
Amcanion
Wrth baratoi’r amcanion hyn, rydyn ni’n:
- Adolygu polisïau a chynlluniau gweithredu Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar draws Canolfan yr Economi Greadigol (o 2019 hyd heddiw) er mwyn arwain strategaeth newydd ar gyfer Media Cymru.
- Cymryd rhan mewn trafodaethau ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar draws rhaglenni arloesi tebyg, megis Creative Informatics yn yr Alban a MyWorld ym Mryste.
- Ymgynghori’n uniongyrchol â’n partneriaid yn y diwydiant, prosiectau a ariennir, ymgeiswyr a’r gymuned ehangach.
- Cael sgyrsiau dilynol un-i-un gydag ymgeiswyr unigol sy’n codi cwestiynau neu bryderon penodol ynghylch cydraddoldeb a’r prosesau ymgeisio.
- Adolygu llenyddiaeth, ymchwil i’r sector creadigol ac adroddiadau’r diwydiant yn barhaus.
Amcanion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant Media Cymru:
- Ariannu prosiectau ymchwil a datblygu beiddgar ac arloesol sy’n herio canfyddiadau a dulliau gweithio, er mwyn cyfrannu at gymdeithas decach a mwy cyfiawn.
- Gweithio’n barhaus i sicrhau bod ein gwaith yn agored i bawb ac yn cyrraedd yr amrywiaeth o gymunedau creadigol ar draws Caerdydd a rhanbarth ehangach y ddinas.
- Monitro a yw Media Cymru yn cynnwys cyfran gynrychioladol – neu fwy na hynny – o gyfranogwyr o gefndiroedd a phrofiadau bywyd amrywiol.
- Sicrhau bod ein hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn weladwy ac yn cael ei gyfleu’n glir.
- Adeiladu sylfaen dystiolaeth ar gyfer cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan sicrhau cynnydd ac atebolrwydd y mae modd eu mesur.
Y diweddaraf: