Cysylltwch â Ni
Media Cymru
Sbarc, Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ
Rydyn ni wedi ein hymrwymo i rannu gwybodaeth a chodi’r proffil clwstwr y cyfryngau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Drwy gydweithio â chlystyrau creadigol llwyddiannus eraill o ledled y byd, rydyn ni’n meithrin cysylltiadau a chydberthnasau, gan agor y ffordd i greu cydweithrediadau newydd a chyfleoedd yn y farchnad i fusnesau yn niwydiant y cyfryngau yng Nghymru.
Rydyn ni wedi gwella ein presenoldeb, ac wedi cyflwyno’r gorau o Gymru yn Media City Bergen, MFG/Baden Wüttemberg, Screen Brussels, The Audiovisual Cluster of Catalonia, a chyda (ULA), NBC a Universal.
Gan weithio gyda Llywodraeth Cymru ac Adran Fasnach Ryngwladol y DU, rydyn ni’n sicrhau dyfodol disglair i fusnesau yn niwydiant y cyfryngau yng Nghymru sydd am ehangu eu cyrhaeddiad a’u proffil rhyngwladol.