string(34) "/cym/amdanom-ni/our-vision/gwyrdd/" Skip to main content

Gwyrdd

Chwarae

Drwy weithio ar y cyd â'r diwydiant i ddatblygu syniadau ymchwil arloesol, rydyn ni’n braenaru’r tir ar gyfer creu dyfodol gwyrddach

Mae Cytundeb Paris, Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig, a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) i gyd yn amlinellu'r amryw o ffyrdd y mae'n rhaid i ni weithredu nawr, gyda'i gilydd, er mwyn atal dirywiad pellach i gyflwr yr hinsawdd.

Drwy weithio ar y cyd â’r diwydiant i ddatblygu syniadau ymchwil arloesol, rydyn ni’n braenaru’r tir ar gyfer creu dyfodol gwyrddach, ac yn cefnogi datblygu cynhyrchion, gwasanaethau a phrofiadau newydd a fydd yn ein helpu i ddiogelu’r amgylchedd a chyrraedd sero net.

Dychymyg ac arloesedd sydd eu hangen er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy, a wynebu’r argyfwng yn yr hinsawdd sydd ohoni. Gyda’n gilydd, gallwn ni fraenaru’r tir ar gyfer dyfodol gwyrddach.

Gwyrdd

Y diweddaraf:

Hyfforddiant Cydlynwyr Cynaliadwyedd: Llwyddiannau, Heriau a’r Camau Nesaf

Mae rhaglen hyfforddi Cydlynwyr Cynaliadwyedd, a ariannwyd gan Media Cymru mewn partneriaeth â Severn Screen ac Earth to Action, a’i chefnogi gan Ymddiried a Chymru Greadigol, wedi hyfforddi chwe pherson i ddod yn Gydlynwyr Cynaliadwyedd yn y diwydiant Teledu o Safon Uchel (HETV).

Rhagor o wybodaeth
Gwyrdd

“Mae arloesedd yn gyfangwbl hanfodol…” Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr y Cenhedloedd y BBC

Rhuanedd Richards yw Cyfarwyddwr y Cenhedloedd y BBC. Mewn cyfweliad arbennig â Media Cymru fel rhan o’n hymgyrch arloesi “Tanio’r Dyfodol”, mae’n rhannu pam fod arloesi yn hollbwysig i ddyfodol y BBC; pam y crëwyd y Gronfa Arloesedd Cynnwys gyda Media Cymru – a’i gobeithion ar gyfer y sector yn y deng mlynedd nesaf.

Rhagor o wybodaeth
Gwyrdd

Stori Arloesi: David Levy, Rheolwr Gyfarwyddwr fivefold studios

In this interview, innovation hero David Levy – Managing Director of fivefold studios – shares his thoughts on the importance of research and development in creating sustainable businesses and his advice for startups in Wales.

Rhagor o wybodaeth
A large wind turbine with three blades stands prominently in a green landscape. Behind it, an industrial building with a flat roof is surrounded by trees and fields. Further back, a residential area with houses is visible, with hills in the distance under a partly cloudy sky.

Pwyllgor y Gymraeg PGGB i gynnal Digwyddiad Cynaliadwyedd

Mae Pwyllgor Cymru Urdd Cynhyrchu Prydain Fawr (PGGB) wedi ymuno â Chymru Greadigol, Media Cymru a Ffilm Cymru Wales i gynnal arddangosfa cynaliadwyedd ar 2 Gorffennaf 2025 yn Stiwdios Great Point, Caerdydd.

Rhagor o wybodaeth
A group of eight people standing in front of a large screen displaying various logos and text. The screen shows the following: 'Final Pixel,' 'media cymru,' 'University of South Wales Prifysgol De Cymru,' 'THE VIRTUAL PRODUCTION FELLOWSHIP WORLDBUILDERS,' 'Final Pixel Academy,' 'GORILLA | ACADEMY,' and 'fivefold.' The individuals are dressed in casual attire.

Consortiwm Media Cymru yn datgelu rhaglen Cymrodoriaethau Cynhyrchu Rhithwir

Mae Media Cymru, consortiwm o sefydliadau a busnesau darlledu, cynhyrchu ac academaidd yng Nghymru, wedi comisiynu’r darparwyr hyfforddiant arbenigol Final Pixel Academy i gyflwyno rhaglen Cymrodoriaethau Cynhyrchu Rhithwir ™ 9 mis yn 2025/2026.

Rhagor o wybodaeth
Gwyrdd

Storïwyr hinsawdd yng Nghymru yn archwilio ffyrdd newydd o ysbrydoli cynulleidfaoedd

Pum prosiect Ymchwil a Datblygu arloesol yn rhannu buddsoddiad o £100,000 o Gronfa Straeon Hinsawdd Media Cymru a Ffilm Cymru Wales.

Rhagor o wybodaeth
Gwyrdd

BBC Cymru Wales a Media Cymru yn buddsoddi £100,000 mewn prosiectau Ymchwil a Datblygu ar gyfer cynnwys hinsawdd arloesol  

Mae BBC Cymru Wales a Media Cymru wedi dyfarnu hyd at £20,000 yr un i bum cwmni cynhyrchu i ymchwilio a datblygu syniadau sy’n adrodd straeon arloesol am yr argyfwng hinsawdd.  

Rhagor o wybodaeth
Gwyrdd

Cronfa newydd Media Cymru a Ffilm Cymru Wales i ddod o hyd i ffyrdd arloesol i rannu straeon hinsawdd

Bydd y Gronfa Straeon Hinsawdd yn cynorthwyo prosiectau ymchwil a datblygu sy’n arwain at ffyrdd arloesol i ysbrydoli cynulleidfaoedd.

Rhagor o wybodaeth
Gwyrdd

Cwmniau Ffilm a Theledu o Cymru yn cael cyllid i ddatblygu syniadau newydd ar gyfer gwneud y sector sgrin yn fwy gwyrdd

Mae Ffilm Cymru Wales a Media Cymru wedi buddsoddi £307,675 i ddatblygu saith prosiect arloesol i geisio gwneud sector sgrin Cymru yn fwy gwyrdd.

Rhagor o wybodaeth
Gwyrdd

BBC Cymru Wales a Media Cymru yn cyhoeddi Cronfa Arloesi Cynnwys yn ymwneud â’r hinsawdd

Mae rownd ariannu 2024 ar gyfer cwmnïau cynhyrchu yng Nghymru i ymchwilio, datblygu a chomisiynu cynnwys sy’n cael ei sbarduno gan arloesedd er mwyn ymgysylltu cynulleidfaoedd ag argyfwng yr hinsawdd ledled Cymru a thu hwnt.

Rhagor o wybodaeth
sgrin werdd gyda char yn y canol a rig goleuo ar y nenfwd

fivefold studios, partner consortiwm Media Cymru, yn agor cyfleuster cynhyrchu rhithwir blaenllaw gyda phencadlys yng Nghymru

Mae fivefold studios, sydd â phencadlys yn Dragon Studios yng Nghymru, yn falch o gyhoeddi agoriad ei chyfleuster cynhyrchu rhithwir blaenllaw.

Rhagor o wybodaeth
Mynychwyr hyfforddiant cydlynwyr cynaliadwyedd

Y rôl newydd sbon sy’n cyhoeddi cyfnod newydd mewn cynhyrchu cynaliadwy

Credir mai rhaglen hyfforddi newydd sbon wedi’i hariannu gan Media Cymru yw’r gyntaf o’i bath yn y DU i ddangos newid sylweddol yn ymagwedd y diwydiant at gynhyrchu teledu cynaliadwy o safon uchel.

Rhagor o wybodaeth
Film shoot on a Welsh mountainside for Beddgelert, dir. Medeni Griffiths, Ffilm Cymru Wales.

Peilota llwybr at ddyfodol cynaliadwy gyda Bargen Newydd y Sgrin Cymru

Gwyrdd

Gwyrddio’r sgrin: lansio cronfa datblygu Ffilm Cymru Wales a Media Cymru

Camerâu teledu yn pwyntio at ddesg cyflwynydd a sgrin werdd.

Mae Bargen Newydd y Sgrin: Cynllun Trawsnewid Cymru

Ffilm Cymru Wales logo

Prosiect: Cronfa Gwyrddu'r Sgrîn

Gwyrdd

Storïwyr hinsawdd yng nghymru yn archwilio ffyrdd newydd o ysbrydoli cynulleidfaoedd

Greg Mothersdale

Greg Mothersdale

Cynhyrchydd Ymchwil a Datblygu

Dewch i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y cyfleoedd cyllido, y digwyddiadau a’r ymchwil gan Media Cymru.

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr.