Cysylltwch â Ni
Media Cymru
Sbarc, Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ
Rydyn ni’n genedl lawn storïwyr, a chredwn ni y dylai stori bob unigolyn gael ei chlywed. Y mae hynny’n bosibl yn unig drwy gynnwys lleisiau a dangynrychiolir yn aml ar bob cam o’r broses gynhyrchu.
Ac yntau’n arwain ar yr esiampl a geir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, mae Agenda Teg Media Cymru am greu newid diwylliannol yn niwydiant y cyfryngau a’i ddatblygu, a hynny er mwyn cefnogi Cymru sy’n iachach ac yn fwy cyfartal; un sy’n dathlu’r diwylliant bywiog sydd gennym ni yng Nghymru ac annog cymunedau cydlynus.
Drwy ariannu ymchwil a datblygu, rydyn ni’n datblygu cydweithrediadau ledled y sector sy’n herio’r Diwydiannau Creadigol yng Nghymru i greu dyfodol tecach, un sydd wir yn teimlo fel petai’r cyfryngau’n perthyn i bawb – i bob unigolyn.